Gorchmynion Sefydlog

RHEOLAU DADL MEWN CYFARFODYDD

  1. Ystyrir cynigion ar yr agenda yn y drefn y maent yn ymddangos oni bai bod y drefn yn cael ei newid yn ôl disgresiwn cadeirydd y cyfarfod.
  2. Ni chaiff cynnig (gan gynnwys gwelliant) ei fwrw ymlaen oni bai ei fod wedi’i gynnig a’i eilio.
  3. Gall cadeirydd y cyfarfod drin cynnig ar yr agenda nad yw’n cael ei gynnig gan ei gynigydd fel un sydd wedi’i dynnu’n ôl.
  4. Os yw cynnig (gan gynnwys gwelliant) wedi cael ei eilio, dim ond gyda chydsyniad yr eilydd a’r cyfarfod y gall y cynigydd ei dynnu’n ôl.
  5. Gwelliant yw cynnig i ddileu neu ychwanegu geiriau at gynnig. Ni fydd yn negyddu’r cynnig.
  6. Os caiff gwelliant i’r cynnig gwreiddiol ei basio, y cynnig gwreiddiol (fel y’i diwygiwyd) fydd y cynnig sylweddol y gellir cynnig gwelliant(au) pellach arno.
  7. Ni fydd gwelliant yn cael ei ystyried oni bai bod rhybudd llafar cynnar ohono yn cael ei roi yn y cyfarfod ac, os gofynnir amdano gan gadeirydd y cyfarfod, ei fod yn cael ei fynegi yn ysgrifenedig i’r cadeirydd.
  8. Gall cynghorydd gynnig gwelliant i’w gynnig ei hun os yw’r cyfarfod yn cytuno arno. Os yw cynnig eisoes wedi’i eilio, rhaid i’r gwelliant fod gyda chydsyniad yr eilydd a’r cyfarfod.
  9. Os oes mwy nag un gwelliant i gynnig gwreiddiol neu sylweddol, caiff y gwelliannau eu cynnig yn y drefn a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.
  10. Yn ddarostyngedig i reol sefydlog 1(k), dim ond un gwelliant a gaiff ei gynnig a’i drafod ar y tro, a bydd cadeirydd y cyfarfod yn pennu trefn y gwelliant.
  11. Gellir trafod un neu fwy o welliannau gyda’i gilydd os yw cadeirydd y cyfarfod yn ystyried bod hyn yn hwylus ond bydd pleidlais ar bob gwelliant ar wahân.
  12. Ni chaiff cynghorydd gynnig mwy nag un gwelliant i gynnig gwreiddiol neu sylweddol.
  13. Nid oes gan gynigydd gwelliant hawl i ymateb ar ddiwedd y ddadl arno.
  14. Pan gaiff cyfres o welliannau i gynnig gwreiddiol eu pasio, bydd gan gynigydd y cynnig gwreiddiol hawl i ymateb naill ai ar ddiwedd y ddadl ar y gwelliant cyntaf neu ar ddiwedd y ddadl ar y cynnig sylweddol terfynol yn union cyn iddo gael ei roi i bleidlais.
  15. Oni bai bod cadeirydd y cyfarfod yn caniatáu hynny, caiff cynghorydd siarad unwaith yn y ddadl ar gynnig ac eithrio:
    1. i siarad ar welliant a gynigiwyd gan gynghorydd arall;
    2. i gynnig neu siarad ar welliant arall os yw’r cynnig wedi’i ddiwygio ers iddynt siarad ddiwethaf;
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.