Gorchmynion Sefydlog
RHEOLAU DADL MEWN CYFARFODYDD
- Ystyrir cynigion ar yr agenda yn y drefn y maent yn ymddangos oni bai bod y drefn yn cael ei newid yn ôl disgresiwn cadeirydd y cyfarfod.
- Ni chaiff cynnig (gan gynnwys gwelliant) ei fwrw ymlaen oni bai ei fod wedi’i gynnig a’i eilio.
- Gall cadeirydd y cyfarfod drin cynnig ar yr agenda nad yw’n cael ei gynnig gan ei gynigydd fel un sydd wedi’i dynnu’n ôl.
- Os yw cynnig (gan gynnwys gwelliant) wedi cael ei eilio, dim ond gyda chydsyniad yr eilydd a’r cyfarfod y gall y cynigydd ei dynnu’n ôl.
- Gwelliant yw cynnig i ddileu neu ychwanegu geiriau at gynnig. Ni fydd yn negyddu’r cynnig.
- Os caiff gwelliant i’r cynnig gwreiddiol ei basio, y cynnig gwreiddiol (fel y’i diwygiwyd) fydd y cynnig sylweddol y gellir cynnig gwelliant(au) pellach arno.
- Ni fydd gwelliant yn cael ei ystyried oni bai bod rhybudd llafar cynnar ohono yn cael ei roi yn y cyfarfod ac, os gofynnir amdano gan gadeirydd y cyfarfod, ei fod yn cael ei fynegi yn ysgrifenedig i’r cadeirydd.
- Gall cynghorydd gynnig gwelliant i’w gynnig ei hun os yw’r cyfarfod yn cytuno arno. Os yw cynnig eisoes wedi’i eilio, rhaid i’r gwelliant fod gyda chydsyniad yr eilydd a’r cyfarfod.
- Os oes mwy nag un gwelliant i gynnig gwreiddiol neu sylweddol, caiff y gwelliannau eu cynnig yn y drefn a gyfarwyddir gan gadeirydd y cyfarfod.
- Yn ddarostyngedig i reol sefydlog 1(k), dim ond un gwelliant a gaiff ei gynnig a’i drafod ar y tro, a bydd cadeirydd y cyfarfod yn pennu trefn y gwelliant.
- Gellir trafod un neu fwy o welliannau gyda’i gilydd os yw cadeirydd y cyfarfod yn ystyried bod hyn yn hwylus ond bydd pleidlais ar bob gwelliant ar wahân.
- Ni chaiff cynghorydd gynnig mwy nag un gwelliant i gynnig gwreiddiol neu sylweddol.
- Nid oes gan gynigydd gwelliant hawl i ymateb ar ddiwedd y ddadl arno.
- Pan gaiff cyfres o welliannau i gynnig gwreiddiol eu pasio, bydd gan gynigydd y cynnig gwreiddiol hawl i ymateb naill ai ar ddiwedd y ddadl ar y gwelliant cyntaf neu ar ddiwedd y ddadl ar y cynnig sylweddol terfynol yn union cyn iddo gael ei roi i bleidlais.
- Oni bai bod cadeirydd y cyfarfod yn caniatáu hynny, caiff cynghorydd siarad unwaith yn y ddadl ar gynnig ac eithrio:
- i siarad ar welliant a gynigiwyd gan gynghorydd arall;
- i gynnig neu siarad ar welliant arall os yw’r cynnig wedi’i ddiwygio ers iddynt siarad ddiwethaf;